owainowain.net
域名年龄: 18年5个月21天HTTP/1.1 403 Forbidden 缓存控制:private 类型:text/html; charset=utf-8 服务器:Microsoft-IIS/7.5 语言环境:ASP.NET 访问时间:2016年12月15日 15:34:26 文件大小:5547 网站编码:utf-8
Adre Personol Yn Gryno... Y Llenor Y Gwleidydd Yr Arlunydd Perlau Y Gwyddonydd Cyfeiriadaeth Safle Owain Owain (1929-1993) CROESO i safle'r llenor a'r gwleidydd Owain Owain! A NADOLIG LLAWEN I BAWB! Fersiwn wreiddiol Haf 1963 o fathodyn Cymdeithas yr Iaith 'Gorchwylion Nadolig Fy Nhad' (Nadolig ym Mhwllheli, 1937) 'Proffwyd tanbaid y deffroad iaith a chwip Prydeindod a Seisnigrwydd', oedd disgrifid Emyr LLew o'r gwr hwn. Yn enedigol o Bwllheli, disgrifiwyd ef hefyd fel tad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Tafod y Ddraig... Cyfoeth yr Amrywiaeth... Pensaer y syniad o Fro Gymraeg... Cardiau Nadolig Cynnar: Gwyddonydd Niwclear Gwrthniwclear... 'Proffwyd tanbaid'... Bardd... Arlunydd... Sut mae cychwyn disgrifio un o sgwennwyr mwyaf toreithiog ac unigryw yr Ugeinfed Ganrif? Dewisiwch o'r fwydlen ar y chwith i weld ychydig am fywyd a gwaith un o arloeswyr brwydrau'r Gymraeg. Fe welwch yma, ar safle Owain Owain, gopiau o'r Tafod y Ddraig cynnar ynghyd â channoedd o lythyrau, erthyglau a storiau byrion y llenor a'r bardd a anwybyddwyd gan y sefydliad. Un o gas bethau O.O. oedd partion jin-a-tonics a sylw. Y burum tawel, gweithgar sy'n creu bara.... 'Cyn bod sôn am Gymdeithas yr iaith galwodd y gyfres o bamffledi yn Tafod y Ddraig' medd Maldwyn Lewis. Cafwyd cyfarfod lansio (Awst 1962) a phrotest yn Aberystwyth, ac yna dim. Dim, namyn un person ym Mangor a ddechreuodd greu rhwydwaith o gelloedd led-led Cymru gan ddechrau gyda Bangor, ac aeth ati 'fel mudiad ynddo'i hun' i 'ddyfeisio ymgyrchoedd newydd ar ran y mudiad' (ebe Gwilym Tudur) ac i uno'r mudiad yn genedlaethol drwy gyfrwng ei gylchgrawn newydd 'Tafod y Ddraig'. Ar yr adeg yma, chwedl Geraint Jones (Twm), Owain Owain oedd Cymdeithas yr Iaith. Yn ôl Dafydd Iwan (Rhagfyr 2007): 'Ym mherson Owain Owain y cafodd ein cenedl un o'n symbylwyr gwleidyddol ymarferol mwyaf allweddol.' Yn fyr: Un o sefdlwyr Cymdeithas yr Iaith; sefydlydd a golygydd cyntaf Tafod y Ddraig Llenor a ddiffiniodd, yn Gymraeg, y frwydyr dros 'Gyfoeth yr Amrywiaeth' a 'chadwraeth iaith' ac yn erbyn 'y llwydni llwyd' a'r 'Ddelwedd Fawr'. Rhoddodd ffurf a siap i frwydrau Cymdeithas yr Iaith drwy ei Ysgrifau a'i lythyrau ac yn ymarferol drwy greu'r syniad o 'gelloedd'. Awdur bron i ugain o lyfrau megis Y Dydd Olaf, Amryw DDarnau a Bara Brith a channoedd o erthyglau, storiau byrion a cherddi. Pensaer y syniad o 'Fro Gymraeg': 'Oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir...' Gwyddonydd niwclear a fathodd nifer o dermau megis 'Gwennol y Gofod', 'Gwledydd Prydain' yn hytrach na 'Phrydain'; colofnydd 'Nodion Gwyddonol' yn Y Cymro. Dylunydd bathodyn gwreiddiol y gymdeithas Yn 1965 newidiodd ei enw (a chyfenw'r teulu) o Owen i Owain. Dilynwyd ef gan lawer o Gymry. Dylanwadodd Owain hefyd ar yr Athro J R Jones, a'i lyfr 'Prydeindod' drwy ei lythyrau a'i ysgrifau. Hawlfraint / Copyright: Cyhoeddiadau Sycharth 2008. Caniateir defnyddio neu gopio unrhyw ran o'r wefan hon, cyn belled nad yw'n cael e
© 2010 - 2020 网站综合信息查询 同IP网站查询 相关类似网站查询 网站备案查询网站地图 最新查询 最近更新 优秀网站 热门网站 全部网站 同IP查询 备案查询
2024-05-21 14:48, Process in 0.0049 second.